Elizabeth: Ysbrydoliaeth

Liz, 'Y Lyric'
Rheolwraig Y Theatr A Chyfarwyddwr Artistig


Elizabeth Evans, MBE. Portrait picture.

Ganwyd Elizabeth Evans yng Nghaerfyrddin ar y 16eg o Fedi, 1944, yn ferch i Myrtle Llywelyn, brodor o’r dref, a Louis Gentle, gwr o Wlad Belg oedd yn swyddog gyda’r fyddin a pherchennog planhigfa. Fe’i magwyd yng Nghaerfyrddin a mynychodd Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i Ferched. Ers yn ifanc magodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio, a bu’n astudio ballet glasurol dan Violet Ellis gan greu ei chysylltiad hir â Chymdeithas Operatig Amatur Caerfyrddin. Ym 1960 dechreuodd hyfforddi fel triniwr gwallt a gwneuthurwr wigiau yn yr Ysgol Trin Gwallt Langley yn Abertawe, ac yna aeth ymlaen i weithio fel artist coluro.

Wedi nifer o flynyddoedd o berfformio cychwynnodd Elizabeth ar ei chysylltiad hir â theatr ieuenctid yng Nghaerfyrddin ym 1978 pan gafodd wahoddiad i fod yn arweinydd ieuenctid gwirfoddol yn y Ganolfan Addysg Bellach yng Nghaerfyrddin. Elizabeth the make-up artist. Sylweddolodd bod ar y bobl ifanc yn y clwb ieuenctid angen symbyliad newydd er mwyn magu mwy o hunan ddisgyblaeth, ehangu eu gorwelion, a’u helpu i gyflawni eu goliau ym mha drywydd bynnag y byddan nhw’n ei ddewis yn eu bywydau. Roedd Elizabeth yn gwybod bod ymwneud â cherddoriaeth a drama yn helpu’r plant hynny i wireddu eu breuddwydion, felly heb unrhyw gyllideb a gyda grwp o bobl ifanc heb unrhyw ysfa wirioneddol i berfformio, llwyddodd i’w perswadio i ymuno â hi i lwyfannu cynhyrchiad o Snow White yn Neuadd y Dref, Caerfyrddin. Fe fuon nhw’n perfformio i dai orlawn ac roedd yn llwyddiant ysgubol yn artistig gyda’r gymuned ac yn fwy pwysig gyda’r plant – ac felly fe aned Cwmni Opera Ieuenctid Caerfyrddin.

Tyfodd y cwmni o nerth i nerth ac ar ôl chwe mlynedd arall o gynyrchiadau llwyddiannus ac wedi ei hesgusodi’n benodol oddi wrth y Really Useful Company, llwyddodd Elizabeth i wireddu un o’i breuddwydion gan lwyfannu cynhyrchiad ffantastig o Jesus Christ Superstar. Bu’r cynhyrchiad mor llwyddiannus fe’i gwahoddwyd i Wyl Rhyngwladol Waterford, bu’n destun ffilm gan y BBC, ac fe’i llwyfannwyd yn ddiweddarach, ar wahoddiad yr Esgob, yn y lleoliad gorau posibl ar gyfer y math yma o gynhyrchiad, Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi. Erbyn hyn roedd Elizabeth wedi blino ar y cyfleusterau cyfyng yn Neuadd y Dref ac fe benderfynodd, os oedd i greu gwir argraff ar fywyd artistig y dref yna fe ddylai’r dref gael Theatr. Gyda’i chriw dethol o helpwyr llwyddodd i gael gafael ar allweddi Theatr y Lyric, adeilad roedd y Cyngor eisoes wedi penderfynnu ei droi’n ganolfan siopa. Atgyweiriodd yr adeilad a dechreuodd y cwmni opera ieuenctid lwyfannu eu cynyrchiadau yno.

Elizabeth the theatre director

Gyda’i swyn naturiol yn fuan iawn fe lwyddodd i berswadio nifer o sêr o’r byd teledu a theatr i ddod i berfformio yn theatr fechan hon oedd bron yn adfail. Dywedodd y canwr opera enwog Syr Geraint Evans, ar ei ymweliad cyntaf â’r Theatr i weld Jesus Christ Superstar "Wel, rydych chi wedi gofyn i mi ddod i adfail o sinema i weld criw o bobl ifanc yn perfformio opera roc. Dydw i ddim yn siwr iawn beth i’w ddisgwyl!" Daeth Syr Geraint wedyn yn gefnogwr brwd o Elizabeth, yr Opera Ieuenctid a Theatr y Lyric. Pan wrthododd y cyngor ei cheisiadau i gael adnewyddu’r adeilad fe aeth dros eu pennau a mynd at yr Ysgrifennydd Gwladol

Mewn dim o dro roedd wedi sicrhau arian oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a chafodd y theatr ei hadnewyddu i’w ysblander blaenorol, ond nawr gydag ychwanegiad y dechnoleg diweddaraf yn gweddu i theatr gyfoes. Ym 1989 derbyniodd Elizabeth yr MBE am ei gwasanaeth i theatr ac i ieuenctid, ac ers hynny mae’r theatr a’r Cwmni Opera Ieuenctid ill dau wedi tyfu i fod yn fwy llwyddiannus nag y gwnaeth neb, ond Elizabeth ddirnad.

Ym 1999 gwireddwyd un o’i breuddwydion eraill pan wahoddwyd ei Chwmni Opera Ieuenctid annwyl ei wahodd i berfformio yn nathliadau canmlwyddiant NODA yn y London Palladium. Mae nifer dirifedi o aelodau’r Cwmni Opera Ieuenctid wedi cael eu cyffwrdd gan ei brwdfrydedd, ei chyfaredd a’i gallu diflino i weld daioni ym mhawb. Roedd bob amser wrth ei bodd pan fyddai ei phobl ifanc yn mynd yn eu blaen i wneud yn dda, ond yn enwedig o falch pan fydden nhw’n dewis gyrfa yn y celfyddydau perfformio. Heddiw gallwch weld degau o’i chyn sêr ar y llwyfan mewn sioeau cerdd yn y West End, yn y tai opera gorau yn y byd, yn creu gyrfa mewn theatr arferol, yn gweithio ar ochr dechnegol y theatr, ar y radio a’r teledu.

Poster of the Gala Concert in aid of the Elizabeth Evans Trust

Ei chynhyrchiad olaf oedd Les Miserables yn 2004 a oedd i’w berfformio yng Ngwyl Waterford, ond oherwydd salwch, ni allodd fynd yno.

Cyffyrddodd â bywydau miloedd o bobl ifanc a phetai ond wedi cael byw yn hirach, heb amheuaeth fe fyddai wedi cwrdd â bywydau miloedd yn rhagor.

Bu i’w sêr mwyaf disglair berfformio detholiad o’r holl sioeau roedd wedi eu cynhyrchu mewn Cyngerdd Coffa mewn teyrnged yn Theatr y Lyric ar y 3ydd Ebrill 2005, gyda chinio ffurfiol ar y 1af Ebrill i lansio’n ffurfiol Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu ysgoloriaethau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio. Dylid anfon pob cyfraniad a ffurflenni cais at: Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth, Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans, Ty Gwynne, 6, Stryd y Cei, Caerfyrddin. SA13 3AD



E bost: Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth