Cliciwch yma to download Trust Application Form (Word Doc 39kb)
Cliciwch yma to download Referees Form (Word Doc 26kb)
Cliciwch yma to download Trust Application Form Notes (Word Doc 28kb)
1. Pwrpas YMDDIRIEDOLAETH ELIZABETH EVANS fydd darparu cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 26 oed (un ai pan yn gwneud cais neu yn ystod y flwyddyn academaidd y caiff yr arian ei ddyfarnu) sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn unrhyw agwedd o gelfyddydau perfformio ac sy'n gallu dangos bod ganddyn nhw gysylltiad agos â Chymru. Caiff blaenoriaeth ei roi i ymgeiswyr sy'n gallu dangos cysylltiad agos â Sir Gaerfyrddin. Ni roddir prawf modd i ymgeiswyr ond gall amgylchiadau personol ymgeisydd fod yn ffactor y gall yr Ymddiriedolwyr gymryd i ystyriaeth wrth bennu swm a maint unrhyw ddyfarniad.
Caiff ceisiadau a dderbynnir ar e-bost neu mewn achosion eithriadol, drwy'r post, yn cael eu hystyried rhwng 1af Ionawr a'r 30ain Ebrill yn ystod unrhyw flwyddyn. Caiff ystyriaeth o geisiadau a dderbynnir ar unrhyw adeg arall ei ohirio tan y 1af Ionawr yn dilyn derbyn y cais oni bai y gellir sefydlu rheswm da a digonol dros hepgor y cais. Pennir yr hyn sy'n ‘reswm da a digonol’ gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn ymgynghoriad â'r Ymddiriedolwyr. Fel arfer caiff ceisiadau eu pennu ymhen 3 mis ar ôl eu derbyn ac yna gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddod i glyweliad.
2. Mae bob amser yn well pan yn cysylltu ag Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans i wneud hynny ar e-bost gan y bydd atebion yn eich cyrraedd ynghynt. Fe anfonwn ateb atoch i ddweud bod eich cais wedi ei dderbyn a bydd hefyd yn ein helpu i gadw costau gweinyddu i lawr.
Os oes rhaid i chi anfon y ffurflen yn ôl drwy'r post dylech gwblhau'r ffurflen yn glir gan ddefnyddio prif lythrennau ac inc du. Caiff ceisiadau sy'n anodd eu darllen eu gwrthod. Dychwelwch y ffurflen mewn da bryd cyn y dyddiad cau.
3. Cwestiwn 2 — Cwrs Astudiaeth Arfaethedig. Ni chaiff ceisiadau eu hystyried oni bai eich bod wedi cael eich derbyn ar y cwrs astudiaeth arfaethedig fel a nodir ar eich ffurflen gais. Ond pan fo clyweliadau neu gyfweliadau'r cwrs neu'r sefydliad wedi eu hamserlennu i gael eu cynnal ar ôl dyddiad cau'r Ymddiriedolaeth, gallwch gynnig eich cais yn ddibynnol ar ganlyniad cadarnhaol
4. Cwestiwn 5 — Canolwyr. Mae angen dau ganolwr i gefnogi'ch cais. Gofynnir i Canolwyr gwblhau'r ffurflen Canolwyr ar-lein. Pan nad oes gan Ganolwr ffordd i gael at y Rhyngrwyd gofynnir i'r ymgeisydd lwytho i lawr gopi o'r ffurflen a'i rhoi i'r Canolwyr a ddewisir, ac mae'n rhaid i un ohonyn nhw fod yn athro'ch prif bwnc astudiaeth, (h.y. canu, rheoli llwyfan, actio ac ati.) Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich canolwyr yn cwblhau'r holiadur a'i ddychwelyd cyn y dyddiad cau (sy'n cyd-fynd â'r dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr). Bydd methu â chwrdd y dyddiad cau yn golygu y caiff eich cais ei wrthod yn ddiamod.
5. Cwestiwn 6 — Gwybodaeth Ariannol. Mae'n bwysig nodi eich sefyllfa ariannol yn gywir ac yn onest. Noder y dylid gwneud asesiadau ar gyfnod astudio o 10 mis. Os yw'ch cyfnod astudio yn amrywio o hyn (e.e. 13 mis yn achos cwrs MMus) ac/neu os yw'ch cytundeb rhentu llety yn para am 12 mis dylech nodi hyn yn glir ar y ffurflen gais.
6. Mae'r cyfyngiad oed yn weithredol fel ar 1af Medi (h.y. dechrau'r flwyddyn academaidd rydych yn gwneud cais amdani).
7. Gwnewch yn siwr eich bod wedi rhoi'r holl wybodaeth y gofynnir amdano. Rhowch eich holl fanylion ar y ffurflen a ddarperir, gan mai dyma'r unig wybodaeth y bydd yr Ymddiriedolwyr yn ei weld.
8. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu anfon e-bost at: Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth