Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans



Elizabeth Evans Directing the Carmarthen Youth Opera

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans yn 2005 i helpu ariannu pobl ifanc sy'n dymuno dilyn gyrfa broffesiynol yn y celfyddydau perfformio – boed hynny fel actor, canwr, offerynnwr neu reolwr llwyfan.Os ydych chi rhwng 16 a 26 mlwydd oed, yn gallu dangos bod gennych gysylltiad agos â Sir Gaerfyrddin a bod arnoch angen cael eich ariannu – un ai ar gyfer cwrs coleg neu brosiect byr dymor – yna r ydych yn gymwys i ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon.

Cynhaliwyd Cyngerdd Coffa ysblennydd yn Theatr y Lyric ar Ebrill 3ydd 2005, oedd yn cynnwys nifer o gyn aelodau o Opera Ieuenctid Caerfyrddin sydd nawr yn sêr yn y West End ac ym myd opera. Mae Cofrodd o CD Ddwbl o Gyngerdd Coffa Elizabeth Evans MBE ar werth, a bydd yr holl arian a gesglir yn mynd i Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans.


Cliciwch ar y dolennau uchod i weld mwy o wybodaeth neu i ymgeisio.



E bost: Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth